Tony Conran Poet/ Bardd • Translator/ Cyfieithydd
CYN IMI GAEL LLAWDRINIAETH
i Lesley fy ngwraig
Wrth garnedd y beddau yn Lerga,
Fel anifail wedi’i blygu gan friwiau
Sefais yn y corstir, yn nwfr y rhyd.
Daw’r Forgan i eistedd ar faenhir
Megis aderyn mawr, yn crawcian wrthof,
Yn ysgwyd ei adenydd. Gwelasai fi
O’r wybr bell, fel petawn yn gelain
Ar gerrig coch yr afon ...
Wel, gwelais hi hefyd. Ond cofiaf
Un arall yno, a hawliodd fi fel Nyf
Ar gyfer ei byd dirgel dan y bryn.
(Ar y Maes, 2012)
' ... yn fardd, yn feirniad, ac yn sylwebydd llenyddol eithriadol o bwysig.
... un o brif feirdd Cymru oedd yn ysgrifennu yn y Saesneg, fel un o ddehonglwyr y traddodiad barddol Cymraeg, heb sôn am fod yn feirniad a sylwebydd craff iawn ar lenyddiaeth Saesneg, a llenyddiaeth yn gyffredinol.'
(Gwyn Thomas, 2013)