Tony Conran Poet/ Bardd • Translator/ Cyfieithydd

Corws Cerddi Conran yng Ngŵyl Afon Ogwen
Mae Corws Cerddi Conran yn falch i berfformio yng Ngŵyl Afon Ogwen ym Methesda, Gwynedd dydd Sadwrn 29ain Medi 2018 gyda Bragod (Robert Evans a Mary-Anne Roberts).


Ar gael oddiwrth admin@agendapoetry.co.uk. Gwybodaeth pellach a thanysgrifiadau www.agendapoetry.co.uk
Adolygiadau yn ‘Planet’ a’r ‘New Welsh Review’ (Atodiad
ar-lein)
Gweler gwybodaeth byr am yr adolygiadau yn Saesneg yma.
Mawrth 11fed 2017: Perfformiad Corws Cerddi Conran yn ystod Colocwiwm Cymdeithas David Jones, 'Starlight Order'
yn yr 'Artworkers' Guild', Queen's Square, Llundain.
'Roedd Corws Cerddi Conran a Bragod yn ei hystyried yn fraint a llawenydd cael perfformio cerddi o'r Three Symphonies fel digwyddiad olaf rhaglen ysbrydoledig o sgyrsiau a darlleniadau dan ofal Cymdeithas David Jones gydag Anne Price-Owen yn cyflwyno. 'Roedd y siaradwyr yn cynnwys Hilary Davies ar 'David Jones a Stanley Spencer', John Mathews yn cofio David Jones, Richard Kindersley ac Ewan Clayton, gyda darlleniad gwych o 'The Book of Balaam's Ass' gan Tom Durham, a'r Beirdd Agenda Josephine Balmer a Patricia McCarthy yn darllen eu gwaith eu hunain.

Ann Price-Owen yn cyflwyno Corws Cerddi Conran
'Roedd y Neuadd ei hun, gyda cherflun William Morris uwchben, yn lleoliad teilwng ar gyfer cydnabod dylanwad Jones fel awdur ac artist a bwrw golwg ar ei waddol – yn cynnwys ei ddylanwad ar waith a syniadaeth Tony, fel y gwelir ym mhedwaredd symudiad 'Everworlds' yn Symffoni 9, sef 'Benedictus'.
Cyflwynwyd ail symudiad 'Everworlds' i Robert Graves, ac yn sgwrs John Mathews dysgasom fod Jones yn wir wedi cyfarfod Robert Graves pan oedd y ddau yn filwyr yn y Ffiwsilwyr Cymreig yn y Somme, gan ei ystyried yn
'ffroenuchel fel un o ddosbarth yr uchel-swyddogion'.

Gwrandawodd y gynnulleidfa fawr yn astud ar ddarlleniadau John, Sheila, Lesley a Dyfan, gyda chyfeiliant yr hen fesurau Ap Huw ac alawon gwerin gan Robert Evans ar y crwth, telyn gynnar a ffidil.
Ymunodd Mary-Anne Roberts â Robert Evans i gyflwyno triniaeth gyflawn Bragod o dair cerdd allan o symudiad olaf 'Everworlds'.
Lesley Conran, Mary-Anne Roberts a Robert Evans.



Mae Cymdeithas David Jones
ac Agenda Poetry
yn falch i estyn gwahoddiad i chi i berfformiad
o gerddi o 'Three Symphonies' gan Tony Conran
gan Corws Cerddi Conran
ar ddydd Sadwrn 11 Mawrth 2017, 4.30yh,
The Art Workers’ Guild, Queens Square, Llundain, WC1N 3AT
Mae'r perfformiad y digwyddiad terfynol mewn colociwm un ddydd yn dathlu 20 mlynedd Cymdeithas David Jones - Starlight Order - sydd yn cymryd ei deitl oddi wrth In Parenthesis, a fydd yn cynnwys anerchiadau gan Hilary Davies, Tom Durham, Richard Kindersley, Ewan Clayton a John Matthews yn ogystal â’r ffilm ‘David Jones: his final years'.
Mynediad i’r perfformiad yn unig - £10 wrth y ddrws (gan gynnwys disgownt ar bris Three Symphonies a lluniaeth).
Mae cofrestriad i’r colociwm gan gynnwys perfformiad Corws Cerddi Conran yn costio £40 ymlaen llaw (hefyd yn cynnwys disgownt ar bris Three Symphonies a lluniaeth).
Cysylltwch â anne.price-owen@uwtsd.ac.uk ar gyfer gwybodaeth pellach ac er mwyn archebu lle.
Gweler hefyd www.david-jones.society,org
Tri Dathliad i Lansio Three Symphonies
Cynhaliwyd dathliad terfynol yng Nghymru o gyhoeddiad Three Symphonies yn Aberystwyth ar 8fed Hydref, yn dilyn digwyddiadau ym Mangor a Chaerdydd. Ymunodd Bragod â Chorws Cerddi Conran ar gyfer noson gofiadwy o farddoniaeth a cherddoriaeth. Cyflwynwyd a phlethwyd y perfformiad gyda chyfansoddiadau cyfoes Sioned Webb ar delyn a phibell, detholiadau o gerddoriaeth gwerin a gosodiadau trawiadol Bragod i’r mesurau hynafol o lawysgrif Robert ap Huw.

D-Ch Rhes gefn: Robert Evans (Bragod) Sioned Webb, Dyfan Roberts, Lesley Conran, Sheila Brook, John Griffiths, Tom O'Reilly (drwm). Rhes blaen: Mary-Anne Roberts (Bragod), Gwilym Morus-Baird
Y Perfformiad nesaf fydd -
Llundain : Sadwrn 11 Mawrth 2017, The Art Workers’ Guild, Queens Square, Llundain, WC1N 3AT: fel digwyddiad terfynol mewn colociwm un ddydd yn dathlu 20 mlynedd Cymdeithas David Jones, ‘Starlight Order’, sydd yn cymryd ei deitl oddi wrth In Parenthesis a fydd yn cynnwys anerchiadau gan Hilary Davies, Tom Durham, Richard Kindersley, Ewan Clayton a John Matthews yn ogystal â’r ffilm ‘David Jones: the ultimate year’.
Mynediad i’r perfformiad yn unig - £10 wrth y ddrws (gan gynnwys disgownt ar bris Three Symphonies a lluniaeth).
Mae cofrestriad i’r colociwm gan gynnwys perfformiad Corws Cerddi Conran yn costio £40 ymlaen llaw (hefyd yn cynnwys disgownt ar bris Three Symphonies a lluniaeth).
Cysylltwch â contact@tonyconran.cymru neu llenwch y ffurflen yma ar gyfer rhagor o wybodaeth.
Nos Wener 9 Medi 2016 7.30yh
Dathlu’r Bardd Tony Conran - Yr Ystafell Gyffredin Chapter
Mae Corws Conran yn cyflwyno detholiad o symffonïau barddonol olaf Tony Conran, gan ddefnyddio adrodd, cân, cerddoriaeth offerynnol, cydadrodd a mwy i greu perfformiad bywiog. Mae’r digwyddiad yn dathlu cyhoeddiad Three Symphonies gan Tony Conran fel Golygiad Gwasg Agenda. Roedd Conran yn fardd dylanwadol, modernaidd a gwreiddiol. Ag yntau’n un o’i phrif gyfieithwyr, mae ei gerddi’n galw’n gyson ar swyddogaeth ddathliadol a chymdeithasol barddoniaeth Gymraeg. Disgrifiodd barddoniaeth fel ‘dawns y geg a thannau’r llais, sydd ond yn dod yn fyw wrth ei chlywed a’i gweld.’
Mynediad £6 ar y drws gan gynnwys diodydd a gostyngiad ym mhris Three Symphonies.
Cyflwynwyd gyda chefnogaeth y Cyngor Llyfrau Cymru.
www.tonyconran.cymru www.agendapoetry.co.uk

Aelodau’r Corws sy’n cymryd rhan yn y perfformiad yw Sheila Brook, Gwilym Morus-Baird, a Lesley Conran. Trefniant cerddorol gan Sioned Webb a Robert Evans. Yr ydym yn falch o groesawu Bragod – deuawd lleol Robert Evans a Mary Ann Robert, fel artistiaid gwadd.
Yn Dathlu Lansiad Three Symphonies
Perfformiodd Corws Cerddi Conran yng Nghanolfan Pontio Bangor, nos Fercher 6 Gorffennaf, mewn noson arbennig i ddathlu cyhoeddi Three Symphonies. Mwynhawyd perfformiad bywiog gan gynulleidfa frwdfrydig o garwyr barddoniaeth, gyda cherddoriaeth gan y gyfansoddwraig a’r cerddor lleol Sioned Webb gyda’i thelyn, pib ac offerynnau taro. Y darllenwyr oedd – Dyfan Roberts, Sheila Brook, John Griffiths a Lesley Conran sydd ‘nawr yn cyfarwyddo’r grŵp. Performiwyd rhannau o bob un o’r Symffonïau.


Cerddor a Chyfansoddwr Sioned Webb..
Lesley Conran, Sheila Brook a Dyfan Roberts
Diolch i bawb a fynychodd, a brynnodd gopi’r o’r llyfr ac a helpodd i greu noson llwyddiannus a chofiadwy.

Tony Conran: Three Symphonies
(Agenda Editions)
ISBN: 978-1-908527-25-7 Price £10
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru
Ar gael o www.agendapoetry.co.uk
Digwyddiadau i ddathlu lansiad Three Symphonies
Bydd y perfformiad nesaf a lansiad De Cymru fel a ganlyn:
Caerdydd: Nos Wener 09 Medi 2016, 7.30yh, Yr Ystafell Gyffredin, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd, CF5 1QE. Manylion llawn i ddilyn. Ac yna -
Aberystwyth: Nos Sadwrn 08 Hydref 2016 7.30pm Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ffordd Penglais Road, Aberystwyth SY23 3BU. Manylion llawn i ddilyn.
Llundain: Dydd Sadwrn 11 Mawrth 2017, The Art Workers’ Guild, Queens Square, London, WC1N 3AT fel digwyddiad terfynol mewn colocwiwm un-ddydd Cymdeithas David Jones – ‘(Starlight Order)’. Manylion llawn i ddilyn.
Cyflwynwyd y perfformiadau gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru
Cerdd yr wythnos yn 'The Guardian'
Rydym yn falch o’ch hysbysu y dewiswyd cerdd Tony Conran, 'Jasper', o Eros Proposes a Toast (Seren 1998), fel cerdd yr wythnos yn y Guardian gan Carol Rumens yn yr wythnos sy'n dechrau 25ain Ebrill. Mae Carol yn awdur 14 casgliad o farddoniaeth, yn ogystal â gwaithiau eraill mewn ffuglen, drama a chyfieithiadau, mae hi hefyd yn Athro mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Bangor. Mae ei dehongliad craff o'r gerdd yn cychwyn:
'Rhodd priodas mewn barddoniaeth, dathliad cynnes o gelf a chrefft, cyfeillgarwch a Chymreictod yw hyn.'
Gallwch ddod o hyd i ‘Jasper’ a sylwadau Carol ar safle we’r Guardian yma.

Yn Cofio Tony Conran
Coffawyd cyflawniad Tony Conran fel llenor trwy osod Plac ym Mhrif Lyfrgell Prifysgol Bangor. Cynhaliwyd defod fer yn y Llyfrgell ar 30 Ebrill 2016, pan ddarllenwyd cerddi i ddau gyfaill a chyn-gydweithwyr a oedd yn ei ysbrydoli – yr diweddar Athro John Danby a’r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones – gan aelodau Corws Cerddi Conran.
Crewyd y plac gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Llenyddiaeth Cymru a chyfeillion, teulu a chyn-gydweithwyr y llenor. Fe’i gwnaethpwyd gan Ieuan Rees sydd yn adnabyddus am ei geinlythrennu a’i gerfio. Defnyddir llechfaen Cymreig.
Gosodwyd arddangosfa o lyfrau’r bardd ac eitemau o archif y Brifysgol yn yr Ystafell Shankland ar gyfer y digwyddiad.
Defnyddir y Llyfrgell gan aelodau’r gymuned leol ynghyd â myfyrwyr a staff y Brifysgol, a bydd y gofeb yn atgoffa’r rhai sydd yn dod i mewn i’r Llyfrgell am y llenor ac yn cynnig pwynt ffocws i edmygwyr ei waith.
Adolygiad gan Byron Beynon yn Agenda Cyfrol 51 rhifau 1-2
‘This is a life-affirming book, written with intensity and energy, poems of mystery and beauty, where the personality of the poet enters the vital sinew of each poem.’