Tony Conran Poet/ Bardd ⢠Translator/ Cyfieithydd

Cyhoeddiad Newydd:

Mae rhagor o wybodaeth a manylion prynnu ar gael ar www.agendapoetry.co.uk
THREE SYMPHONIES
Cafodd y gyfres olaf o gerddi symffoni Tony Conran yn ei chyhoeddi fel‘Agenda Edition’ ym mis Mehefin 2016.
Yn y cerddi hyn, mae Conran yn trin a thrafod bywyd, cariad, diwinyddiaeth, creadigaeth, creadigrwydd a themâu hanesyddol hyd yn oed, gan arddangos amrywiaeth eang o dechnegau barddol a dychmygus. Mae’r tair symffoni yn ategu ac yn cyferbynnu ei gilydd, ac maen nhw’n dangos y bardd ar ei anterth o ran ei ddoniau creadigol. Mae’r ddelweddaeth yn defnyddio gwyddoniaeth, crefydd, bywyd teuluol (yn 'The Magi'), gwaith (yn 'Fabrics'), y profiad creadigol a barddol (yn 'Everworlds'); gan fynegi hiwmor, rhyfeddod a chydymdeimlad â thynged dynion.
Yn ei gyflwyniad treiddgar i'r farddoniaeth, dywed Jeremy Hooker:
āMae'r tair symffoni yn defnyddio hynt yr awdur, ond fel rhan o hanes bywyd ei hun, a chyda gwrthrychedd syān ymgorffori emosiwn personol mewn dehongliad ehangach o brofiad dynol yng nghyswllt y cread naturiol a dwyfol. Mae Conran yn cyflwyno drama gysegredig yn y cerddi hyn.ā
Cyhoeddwyd gyda chefnogaeth Cyngor Llyfrau Cymru.
Barddoniaeth



WHAT BRINGS YOU HERE SO LATE
2008, Gwasg Carreg Gwalch
ISBN: 978-1-84527-170-1
Clawr meddal, 215x138 mm
Cerdd hunangofiannol unigol ar ffurf chwilfa epig eironig, wedi ei rhannu yn bedwar symudiad symffonig. Mae Conran yn cyfleuān deimladwy sut brofiad oedd tyfu i fyny gyda pharlys yr ymennydd yng Nghymru yn ystod y rhyfel, yna sut beth oedd bod yn fyfyriwr, yn fardd ac yn ddyn Catholig ym Mangor aāi ymdrech i sefydlu ei hun yn y byd cymdeithasol yng nghyd-destun blynyddoedd Thatcher. Maeān derbyn agosrwydd marwolaeth yn y trydydd symudiad, ac, i gloi, cawn hanes y llawdriniaeth a gafodd ar ei gefn i atal parlys cynyddol.
Prynu: Gwasg Carreg Gwalch
THE RED SAP OF LOVE
Cerddi telynegol wedi'i casglu 1951 - 2000
2006, Gwasg Carreg Gwalch
ISBN:1-84527-062-2
Clawr meddal , 213x137 mm, 237 tudalen
Casgliad ardderchog o un agwedd ar farddoniaeth Tony Conran, gan ddilyn hynt a helynt ei hanner canrif a mwy fel bardd telynegol, oāi frwdfrydedd cynnar i'w fyfyrio aeddfed. Maeān dwyn ynghyd y cymdeithasol, y cysegredig, y trist aār digrif. Mae hefyd yn cynnwys marwnad iār bardd RS Thomas.
Prynu: Gwasg Carreg Gwalch
Eros Proposes a Toast
ISBN:1-185411235X
Clawr meddal
Mae'r casgliad hwn o ā Gerddi Cyhoeddus a Rhoddionā yn cynnwys cerddi gyfansoddwyd at achlysuron arbennig a cherddi anrheg i ffrindiau, yn ogystal a'r farwnad deimladwy āElegy for the Welsh Deadā. Mae'r cerddi'n fodernaidd ac arbrofol eu ffurf , ond yn tynnu hefyd ar y traddodiad mawl a dathlu Cymraeg yr oedd Conran yn gyfieithydd mor wych ohono.
Buy: Seren
Cyfieithiadau
Mae Tony Conran yn cael ei ystyried yn un o gyfieithwyr barddoniaeth gorau Cymru. Ef oedd yn gyfrifol am gyfieithu The Penguin Book of Welsh Verse (1967), ac ysgrifennodd Gyflwyniad iddo hefyd, a oedd yn ddylanwadol o ran cyflwyno Barddoniaeth Gymraeg i gynulleidfa ehangach o lawer. Cafodd y llyfr ei ddiwygio aāi ehanguān helaeth pan gafodd ei ailgyhoeddi fel Welsh Verse gan Poetry Wales Press (Seren bellach) ym 1986 ac 1992. Cafodd ei gyfieithiadau ardderchog o farddoniaeth Waldo Williams, Peacemakers (Y Tangnefeddwyr), eu cyhoeddi gan Gomer ym 1997.
Cyfieithodd Conran farddoniaeth o ieithoedd eraill hefyd, gan gynnwys Lladin, Ffrangeg ac Eidaleg, a chafodd rhifyn cain oāi gyfrol Eighteen Poems of Dante Alighieri ei chyhoeddi gan Tern Press ym 1975, gydag ysgythriadau gan Nicholas Parry. Ym 1984, cyhoeddodd Tern Press gyfrol fach o bedwar cyfieithiad o waith Dafydd ap Gwilym ochr yn ochr Ć¢ār gwreiddiol, oedd etoān cynnwys ysgythriadau.
Mae Seren yn bwriadu ail-gyhoeddi Welsh Verse yn ystod 2017. Yn anffodus mae Peacemakers allan o brint, ond mae copĆÆau ail-law ar gael ar Amazon ac eBay. Mae rhywfaint o wybodaeth am y rhain isod.


WELSH VERSE
1986, 1992 Seren
ISBN: 1-85411-081-0
Clawr meddal
Cyfieithiadau o ddetholiad o farddoniaeth Cymraeg y pedwar ganrif ar ddeg ddiwethaf, o epigau Taliesin ac Aneirin i gerddi beirdd modern, megis Gwyn Thomas a Nesta Wyn Jones. Ar hyd y daith, maeān trin sagĆ¢u, carolau, emynau, mesurau caeth, Rhamantwyr aār cymdeithasol-ymwybodol. Mae yna gyfieithiadau o waith Cynddelw, Owain Gwynedd, Dafydd ap Gwilym, Anne Griffiths, Pantycelyn, T.Gwynn Jones, Williams Parry aāi gefnder Parry-Williams, Saunders Lewis, Gwenallt a Waldo Williams. Mae yna hefyd ganllaw i reolau manwl mesurau Cymreig.
PEACEMAKERS
1997 Gwasg Gomer
ISBN: 1-85902-440-0
Clawr meddal
Mae cyfieithiadau mirain Tony Conran o gerddi Waldo Williams, yn ogystal Ć¢āi gyflwyniad iddynt, yn cyfleu gweledigaeth lawen a thrist dyn a oedd yn fardd hynod ac yn agos at galon pob Cymro Cymraeg.
Ysgrifau Beirniadol


FRONTIERS IN ANGLO-WELSH POETRY 1997
Gwasg Prifysgol Cymru
ISBN;0-7083-1395-7
Clawr meddal
Maeār astudiaeth hon yn archwilio effaith cefndir cymdeithasol a diwylliannol beirdd Eingl-Gymreig ar eu bywyd aāu gwaith, gan gynnwys Gerard Manley Hopkins, R.S. Thomas, David Jones, Dylan Thomas, John Ormond, John Tripp a Raymond Garlick. paragraph.
Prynu: University of Wales Press
VISIONS AND PRAYING MANTIDS
1997 Gwasg Gomer
ISBN: 1-85902-477-7
Clawr meddal
Casgliad gafaelgar o draethodau beirniadol a hunangofiannol. Maeār traethodau hyn yn dangos bod ei amrywiol rinweddau ā bardd, dramodydd, cyfieithydd a beirniad ā yn cyd-fynd yn effeithiol Ć¢āi gilydd. .
Drama

BRANWEN dramau eraill a dramâu dawns
2003, Gwasg Carreg Gwalch
ISBN: 9780863818561,
148x210 mm, 300 tudalen
Casgliad hynod ddiddorol o ddramĆ¢u, gyda phlotiau o'r Mabinogi. Branwen ywār un ddrama hir yn y casgliad hwn o ddramĆ¢u (o 1980 i 1995). Maeār dramĆ¢u i gyd yn arddull farddol unigryw Tony Conran, gan ddefnyddio hen chwedlau a gwleidyddiaeth fodern i daflu goleuni ar y naill aār llall; ac mae llawer oār cerddi yn defnyddio cĆ¢n a dawns fel sail iār digwyddiadau.