Tony Conran Poet/ Bardd • Translator/ Cyfieithydd

‘Yn ei hanfod, nid llenyddiaeth yw barddoniaeth. Fel mwyafrif y celfyddydau creadigol, mae ei wreiddiau mewn dawns. Dawns y llais a’r geg ydy o, a ‘dydi o ddim yn dod yn fyw nes i chi ei glywed o a’i weld o.’
Tony Conran, 2010
Daeth Corws Cerddi Conran at ei gilydd yn 2009-10 i weithio gyda Tony Conran er mwyn creu perfformiadau amlochrog, bywiog o’i waith. Nid darlleniadau cyffredin mo’r rhain, ond rhai sy’n defnyddio llefaru, canu, cerddoriaeth, cyd-adrodd, deialog a mwy. Ystyr cynhenid y gerdd sydd yn arwain bob tro, a daw gwefr yr iaith a’r ddelwedd yn fyw drwy’r mynegiant nwyfus.
Deil Corws Conran i hybu ac archwilio etifeddiaeth Tony Conran, o dan gyfarwyddyd Lesley Conran, ei wraig a’i gyd-weithredwr, sydd yn athrawes Saesneg a Chymraeg, yn berformwraig lleisiol ac offerynnol a hwylusydd datblygu cymunedol.
Mae Perfformiadau Blaenorol yn cynnwys:
Cofio Tony Conran Remembered, Gwyl Arall/Another Festival, Caernarfon, Gorffennaf 2015, gyda PEN Cymru. Dathliad o farddoniaeth Saesneg Tony yn cynnwys ei Cerddi Rhodd, cerddi oddi wrth Castles, What Brings You Here so Late a theyrngedau gan Menna Elfyn a Tony Brown.
Gwyl Llenyddol RS Thomas, Eglwysfach, Medi 2013, yn cynnwys ‘Fabrics’, Cerddi Rhodd, a ‘The Great RS is Dead’.
Gwyl Barddoniaeth Rhyngwladol Bangor, Hydref 2012, ‘The Good Thief’ – Cyfieithiadau a Cherddi Cymraeg.

Tony a Lesley Conran yn darllen yn y1980au.
‘Cynhyrchiad disglair, bywiog a gwefreiddiol'
Sally Baker, PEN Cymru 2015
Mae Aelodau craidd y Corws yn cynwys:
Sheila Brook: Cantores, cyfansoddwraig
a cherddor, gyda chariad at
farddoniaeth a pherfformio.
Pauline Down: Cantores, arweinydd cor,
ymarferydd yn y celfyddydau,
a pherfformwraig brofiadol.
John Griffiths: Athro llenyddiaeth, cerddor
a pherfformiwr lleisiol.



Gwilym Morus-Baird: Cerddor / gyfansoddwr, bardd, canwr.
Dyfan Roberts: Actor amlwg ar lwyfan
teledu a ffilm. Canwr.
Cyd-sylfaenydd Cwmni
Theatr Bara Caws.
Sioned Webb: Chwaraewr sawl offeryn,
cyfansoddwraig (telyn,
allweddellau etc.).
Athrawes gerdd.



Bydd perfformwyr gwadd yn cymryd rhan mewn rhai perfformiadau.
Ar gyfer wybodaeth am berfformiad(au) nesaf Corws Cerddi Conran cliciwch yma.
Er mwyn gwneud ymholiad ynglyn â threfnu perfformiad defnyddiwch y ffurflen gyswllt.