Tony Conran Poet/ Bardd • Translator/ Cyfieithydd
Roedd Tony (Anthony, Edward, Marcell) Conran yn fardd, yn gyfieithydd, yn feirniad, yn athro, ac yn un o brif awduron Cymru yn ystod ei yrfa o 50 mlynedd a mwy. Cafodd ei eni ym Mengal ym 1931, bu’n byw yn Lerpwl ac ym Mae Colwyn yn fachgen, a graddiodd mewn Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n gweithio fel clerc yn Chelmsford am gyfnod byr, ac yn y cyfnod hwnnw daeth i arddel y ffydd Gatholig, yn sosialydd a dechreuodd gyfieithu Barddoniaeth Gymraeg. Yn ystod ei gyfnod fel Cymrawd Ymchwil a Thiwtor mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mangor, cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth, gan gynnwys y cyfrolau arobryn Formal Poems (Christopher Davies, 1960), Blodeuwedd (Poetry Wales Press, 1988) a Castles (Gomer, 1993). Gorffennodd y cyfieithiadau a’r cyflwyniad trwyadl ar gyfer The Penguin Book of Welsh Verse (a gafodd ei ailgyhoeddi a’i ehangu dan yr enw Welsh Verse, Seren Books, ym 1986 ac 1992) yn y cyfnod hwnnw hefyd, a chyhoeddodd amryw byd o erthyglau a thraethodau. Ar ôl iddo ymddeol yn gynnar ym 1981, aeth ei waith creadigol a beirniadol o nerth i nerth, gan gynnwys gwaith i'r theatr, dwy gyfrol o ysgrifennu beirniadol a rhagor o gyfrolau o gerddi a chyfieithiadau. Bydd Three Symphonies, ei gyfrol olaf o farddoniaeth, yn cael ei chyhoeddi gan Agenda Editions ym mis Mehefin 2016.
Ysgrifau Beirniadol ar Tony Conran