top of page

Roedd Tony (Anthony, Edward, Marcell) Conran yn fardd, yn gyfieithydd, yn feirniad, yn athro, ac yn un o brif awduron Cymru yn ystod ei yrfa o 50 mlynedd a mwy. Cafodd ei eni ym Mengal ym 1931, bu’n byw yn Lerpwl ac ym Mae Colwyn yn fachgen, a graddiodd mewn Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n gweithio fel clerc yn Chelmsford am gyfnod byr, ac yn y cyfnod hwnnw daeth i arddel y ffydd Gatholig, yn sosialydd a dechreuodd gyfieithu Barddoniaeth Gymraeg. Yn ystod ei gyfnod fel Cymrawd Ymchwil a Thiwtor mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mangor, cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth, gan gynnwys y cyfrolau arobryn Formal Poems (Christopher Davies, 1960), Blodeuwedd (Poetry Wales Press, 1988) a Castles (Gomer, 1993). Gorffennodd y cyfieithiadau a’r cyflwyniad trwyadl ar gyfer The Penguin Book of Welsh Verse (a gafodd ei ailgyhoeddi a’i ehangu dan yr enw Welsh Verse, Seren Books, ym 1986 ac 1992) yn y cyfnod hwnnw hefyd, a chyhoeddodd amryw byd o erthyglau a thraethodau. Ar ôl iddo ymddeol yn gynnar ym 1981, aeth ei waith creadigol a beirniadol o nerth i nerth, gan gynnwys gwaith i'r theatr, dwy gyfrol o ysgrifennu beirniadol a rhagor o gyfrolau o gerddi a chyfieithiadau. Bydd Three Symphonies, ei gyfrol olaf o farddoniaeth, yn cael ei chyhoeddi gan Agenda Editions mis Mehefin 2016.

 

Roedd Tony Conran yn diwtor a mentor ysbrydoledig i genedlaethau lu o fyfyrwyr, ac arweiniodd seminarau arbenigol ynglŷn â Serch Llys a'r Baledi Gwerin ym Mangor.  Roedd ei ddiddordebau’n amrywio’n fawr, gan feddu ar ddealltwriaeth hollddysgedig o agweddau ar wyddoniaeth (botaneg a chemeg yn bennaf), ar gerddoriaeth (clasurol, gwerin, jazz a thraddodiadol), ac ar wleidyddiaeth (bu’n Farcsydd brwd hyd y diwedd) a’r celfyddydau.  Bu ei gartref yn hafan i artistiaid, cerddorion, cantorion gwerin, gwyddonwyr, awduron a meddylwyr radical, yn ogystal â myfyrwyr.

 

Credai Conran bod barddoniaeth yn dod yn fyw wrth gael ei darllen a’i pherfformio, a gweithiodd gyda pherfformwyr, artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau i greu perfformiadau trawiadol, megis 'Dial a Poem' (1970), '0.125 Where is thy Sting' (1971), 'The Angry Summer' gan Idris Davies, bardd o dde Cymru (1973), 'Blodeuwedd' (1983) a 'Rhys a Meinir' (1995). Roedd ei gydweithwyr yn cynnwys yr artistiaid a'r gwneuthurwyr ffilm Alan McPherson a Clive Walley, y dawnswyr Anna Holmes, Bronwyn Judge a Dymphna D’Arcy, y perfformwyr llais Pauline Down a Martin Gill, a cherddorion lu.  Yn yr wythdegau cynnar, trodd at ddrama, a chafodd ei ddrama hir fydryddol, 'Branwen', ei chynhyrchu gan Gilly Adams gyda ‘Made in Wales Stage Company’ ac aeth ar daith o gwmpas Cymru rhwng 1984 ac 1987. Cafodd hefyd ei gomisiynu gan y BBC i gyfieithu Amlyn ac Amig, drama fydryddol Saunders Lewis, a gafodd ei chynhyrchu ar gyfer BBC Radio 3 gan Adrian Mourby, dan yr enw 'The Vow'. Parhaodd i arbrofi ym maes y theatr, ac yn 2008 sefydlodd Tony, ei wraig Lesley a grŵp o berfformwyr Corws Cerddi Conran sy’n parhau i berfformio ei farddoniaeth.

 

Roedd Tony’n ymddiddori’n fawr ym myd natur, o ganlyniad i'r ysbrydoliaeth a gafodd o dirwedd ac amgylchedd ei gartref yng ngogledd Cymru.  Roedd yn arddwr brwd, a thyfodd amryw byd o lwyni yn ei ardd lethrog ger y Fenai. Bu’n casglu rhedyn, a thyfodd enghreifftiau prin o sborau y dôi o hyd iddynt wrth deithio ar hyd a lled y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Nes y cyfyngwyd ar ei symudedd ddiwedd ei oes, roedd wrth ei fodd yn cerdded mynyddoedd a chrwydro'r arfordir, gan gadw llygad am adar, rhedyn ac enghreifftiau o archeoleg a daeareg helaeth yr ardal.

 

Ysgrifau Beirniadol ar Tony Conran

bottom of page